Mae’n gallu bod yn hen fyd prysur.
A phan fyddwch chi'n creu Ffilmiau, Rhaglenni Teledu, Hysbysebion, Fideos Corfforaethol, Promos neu Brosiectau Rhithrealiti (Virtual Reality) bydd gennych ddigon ar eich plât.
Er na allwn gadw pop plât yn troelli, gallwn roi'r sylw a chreadigrwydd mae eich sain yn haeddu.
Byddwn yn gofalu am eich sain, yn ei helpu i dyfu, ac unwaith bydd eich sain yn barod i adael ein nyth byddwch yn falch o glywed yr hyn y mae'n ychwanegu at eich prosiect.
Ein ffordd o weithio:
Credwn fod y talent gorau yn allweddol, dyna pam bod gennym ni rhai o’r dylunwyr sain a chymysgwyr sain gorau i weithio ar eich prosiectau. Mae cydweithredu wrth wraidd ein ffordd o weithio, ynghyd â gwrando ar eich anghenion a'ch syniadau. Rydym o hyd yn esblygu, dysgu ac yn llawn brwdfrydedd.
Ar offer?
Mae yna ddwy stiwdio dybio sydd newydd eu hadnewyddu, gyda Pro Tools HD, ystafell drosleisio gyfforddus, meicroffonau o safon uchel a'r gallu i gysylltu gyda chwmnïau sain o amgylch y byd.
Am wybodaeth bellach, bwcio amser yn y stiwdio neu am syniad o’n prisiau?
Ffoniwch ni ar +44 (0) 29 20 450 950 neu e-bostiwch info@hootstudios.co.uk
Y Tim
Nicholas Davies
Rhys Young
Meurig Hailstone
Mae Nick Davies yn ddylunydd sain, dybiwr a recordydd sain ar leoliad profiadol iawn.
Fe enillodd Nick BAFTA Cymru am ei ffilm gradd o’r adran Ffilm, Brifysgol Cymru Casnewydd yn 2006 ac ers hynny mae wedi bod yn arbenigo mewn sain.
Mae Nick wedi gweithio ar gynyrchiadau i’r sinema, rhaglenni teledu ar gyfer ddarlledwyr megis y BBC, ITV, Channel 4 a Discovery - a hysbysebion a promos ar gyfer cleientiaid gan gynnwys Starbucks, Rexona, y Llynges Frenhinol, a'r BBC Asian Network.
Mae Rhys wedi gweithio yn y diwydiant am dros dair mlynedd fel peiriannydd recordio, dylunydd sain, arbenigwr Foley ac yn fwy diweddar fel dybiwr sain.
Mae Rhys hefyd yn gweithio i rhiant gwmni Hoot, sef CTV Sound Studios, ar brosiectau Sain Ddisgrifio.
Mae Rhys yn siaradwr Cymraeg, sy’n berffaith ar gyfer prosiectau dwyieithog. Mae Rhys wedi gweithio ar sawl cartwn ar gyfer S4C ac mae ganddo hefyd brofiad helaeth o gymysgu hysbysebion a ffilmiau corfforaethol.
Mae Meurig wedi bod gyda CTV, sef y rhiant gwmni, ers 2003. Yn ystod yr amser yna mae Meurig wedi gweithio ar nifer o brosiectau animeiddio ac ail-leisio fel peiriannydd recordio a dybiwr.
Mae Meurig hefyd yn siaradwr Cymraeg sy’n helpu iddo weithio ar amrywiaeth eang o brosiectau sain ddisgrifio, ac ail-leisio.
Mae Merurig hefyd yn berson sydd yn gatrefol yn cynnal a chadw’r offer a datblygu technoleg newydd o fewn y stiwdio.