top of page

Ein Genelec 7270a newydd, gyda technoleg ‘SAM’

Hoot Sound Studios - Voiceover Recording, ADR, Dubbing, Game Dialogue, Podcasts

Yn ddiweddar i ni wedi buddsoddi mewn seinydd ‘subwoofer’ newydd gan Genlec, model 7270a, sy’n cyfleu sain arbennig o glir, yn enwedig y bass. Mae’r seinydd yma wedi bod ar ein rhestr dymuniad ers tro a nawr mae’n wych cael cyfle i’w ddefnyddio.

 

Mae’r seinydd newydd yn ei’n galluogi i gymysgu sain yn stereo arferol,  5.1 (Surround Sound) ac 7.1. Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn disgwyl i’r sain fod mor ddwfn a chryf.

 

Mae’r manylion y 7270a yn drawiadol gyda amledd 19Hz isaf, ac allbwn SPL uchel. Y nodwedd fwyaf trawiadol yw’r dechnoleg ‘SAM’ (Smart Active Monitoring) o fewn y seinydd.  Fel rhan o’r system gyda’r uchelseinyddion 8250a gan Genlec gallwch wirio eich amgylchedd gwrando yn awtomatig. Mae'r broses hon yn cael ei rheoli gan feddalwedd GLM 2.0 a meicroffon yng nghanol yr ystafell. Mae’r system yn sicrhau bod y lefelau ac amledd cywir yn cael eu clywed lle bynnag yr ydych yn eistedd o fewn y stiwdio.

 

Mae’r system yn cadarnhau bod yr holl amleddau isel, canol ac uchel i gyd yn cael ei clywed yn gywir. Os oes gennych gleient yn eistedd mewn lle wahanol i’r dybiwr yn yr ystafell, ar soffa yng nghefn yr ystafell fel enghraifft, bydd y system yn newid yr amledd a lefelau sain yn awtomiatig i wneud yn siwr fod y person yna yn gallu clywed yn glir.  

Da cael tegan newydd i chwarae gyda!

Felly, ar y nodyn hwnnw diolch am ddarllen.

Ein dyn ni yn Rio

Hoot Sound Studios - Voiceover Recording, ADR, Dubbing, Game Dialogue, Podcasts

Pob lwc i'n dylunydd sain Nick sydd yn Rio yn gweithio ar brosiect sy'n gysylltiedig â'r Gemau Olympaidd. Mae fe wedi mynd a’u kit chwaraeon jyst rhag ofn!

Hysbyseb Llaeth Y Llan

Hoot Sound Studios - Voiceover Recording, ADR, Dubbing, Game Dialogue, Podcasts

Pan ddaeth Tom Bryan o Gynhyrchiadau Shark Biscuit i siarad a fi am y brosiect yma reoddwn yn ysu i gael fy nhanedd i fewn i’r gwaith.  Roedd yn gyfle i mi ddefnyddio bron pob un declyn newydd sbon yn y stiwdio.

Y peth cyntaf oedd recordio y droslais ar gyfer y hysbyseb. Roedd yn bleser cael croeso y gyn-chwaraewr rygbi Rick O'Shea i fewn i’r stiwdio, y person perffaith  am y droslais yma. Defnyddiais ein meicroffon ‘U87ai’ gan Neumann, un o glasuron yr ystafell drosleisio. Roedd Tom hefyd am i mi ychwanegu effeithiau sain a dylunio sain syml ar y prosiect. Gyda llyfrgell enfawr o effeithiau sain roedd hi’n digon hawdd dewis effeithiau sain i gyd-fynd gyda’r hysbyseb. Y cam nesaf oedd i ddechrau cymysgu’r sain. Defnyddiais ein desg gymysgu newydd, y C24 gan AVID/Digidesign.

 

Ar ôl i mi wneud yn siwr bod pawb yn hapus gyda’r sesiwn roedd hi’n amser defnyddio meddalwedd newydd sy’n sicrhau bod y sain yn cydymffurfio gyda lefelau newydd R128. Defnyddiais feddalwedd R128 gan iZotope.

Mae’r hysbyseb wedi’i ddarlledu ar ITV Cymru Wales, ynghyd â fersiwn Gymraeg sydd yn cael ei ddarlledu ar S4C. Fe wnes i fwynhau gweithio ar y prosiect, a cafodd Tom o Shark Biscuit adborth da am y gwaith.

Ei’n desg newydd, gan Argosy, ar gyfer y C24

Hoot Sound Studios - Voiceover Recording, ADR, Dubbing, Game Dialogue, Podcasts

Edrychwch ar ein desg ‘Argosy 90’ newydd i ddal ein desg cymysgu (y C24). Mae’n cwblhau'r adnewyddiad o Stiwdio 2. Am fwy o wybodaeth ffoniwch  029 20 450 950.

bottom of page